Bydd
Cymdeithas Cymru-Llydaw
yn cynnal penwythnos
yn
Nant Gwrtheyrn
i ddysgu ac i ddefnyddio’r Llydaweg, rhwng 20 a 22 Tachwedd, 2015 (bydd swper ar y nos Wener a chinio canol-dydd ar y Sul)
Y pris i aros ac am yr holl brydau bwyd: £130 + y gwersi £12 (£20 i rai nad ydynt yn aelod o’r Gymdeithas) = £142 (£150)
Mae’n bwysig gwybod faint o bobl a fydd yn dod, felly byddem yn falch pe baech yn rhoi gwybod inni cyn gynted ag y bo modd, os hoffech gymryd rhan: rhh@aber.ac.uk
(enw / anghenion llety / anghenion bwyd / lefel y gwersi)